Dydd Llun, Awst 9, 2010
Sgôr eithriadol o dda ar gyfer Dydd Llun glawiog: y gwyliau ysgol
wedi helpu heddiw. Cefais 2 x darn £2 hefyd – bonws.
Ryw ‘wag’ yn ddoethinebu wrthyf am ddirywiad y crwth a’r pibgorn
yn yr 18eg Ganrif: “...the Wesleys [sic.] were selling their hymn sheets...they had
a vested interest in knocking out the culture didn’t they...” Amen i hwnna dweda’i!
Amser cinio yn caffi Freckles. Cymharol gostus, ond cacennau spwng gwerth chweil