23 July 2014

Ymadael â'r Sioe

    (Llun: y bryniau ger Cilmeri neithiwr, wedi'r Sioe yn Llanelwedd)

"Hiraeth mawr a hiraeth creulon..."

Prynhawn ddoe, fe wnaeth fy hen gyfaill Rhydian Mason gosod llun ar ei ffrwd Facebook o'r tu fewn i'r ystafell sylwebu wrth Brif Faes y Sioe yn Llanelwedd, lle roedd yn sylwebu ar y gystadlaethau marchogaeth yno. Wrth i mi "hoffi" ei lun Facebook, teimlais hefyd fymryn o genfigen cyfeillgar tuag at swydd bleserus Rhydian. Deffrwyd hefyd teimlad cefais neithiwr wrth ymadael â Llanelwedd gyda'm ferch, Heledd, sef hiraeth dirdynol am fyd a diwylliant cefn gwlad nad wyf yn rhan ohono.

Llygod, tywydd ac arogl fferm

Ond pam? Gallen i fyth fod yn ffermwr. Mae gen i glefyd y gwair sydd yn ddigon cryf i'm llorio ar adegau ym mis Mehefin. Mae gen i ofn iasol o lygod a llygod mawr. Mae'n gas gen i arogl ceffylau a buchod, er cymaint yr wyf yn gallu edmygu'r anifeiliad a'u perchnogion dyfal. Rwy'n casau tywydd poeth, ac yn casau gwyntoedd dwyreiniol y gaeaf. Na, bydden i ddim lot o help ar fferm!

(Llun: Cystadleuaeth Limousin yn Llanelwedd ddoe)

"Tally-Ho!"

Dydw i ddim chwaith yn gyfforddus gyda'r elfen rhwysgfawr ar fywyd cefn gwlad Cymru - yr hen rhwydweithau rhwng tirfeddianwyr, y bonedd, y brenhiniaeth a'r lluoedd arfog a welir mor amlwg yn Sioe Llanelwedd. 

Ydy, mae Sioe Llanelwedd yn Gymreig, ac yn Gymraeg i raddau, ond mae hefyd yn sioe sydd yn dathlu ac yn tanlinellu'r hunaniaeth Brydeinig yng Nghymru. Yn hytrach na hybu arwahanrwydd Cymru, mae'r Sioe Frenhinol yn cadw ni'r Cymry yn ein lle, ac yn gwneud hynny mewn modd gelfydd ac atyniadol tu hwnt. 

 (Llun: Geocaching / Geogelcio fel dihangfa i gefn gwlad? Chwilio celc yng Ngogledd Iwerddon ym mis Mehefin eleni).

"The people's flag is deepest red..."

Mae rhai o'm safbwyntiau hefyd yn mynd groes i rai o fuddianau traddodiadol ffermwyr. Er engrhaifft, rwyf yn cytuno gyda'r gwaharddiad ar hela gyda chŵn. Rwyf hefyd yn credu, y dylid agor rhannau llawer helaethch o dir preifat Cymru ar gyfer cerddwyr cyfrifol (Right to Roam). Dydw i heb fy mherswadio'n llwyr gan y naill ochr na'r llall ar y ddadl difa moch ddaear. 

Credaf bod economi'r farchnad bwyd ers yr Ail Rhyfel Byd wedi bod yn anfoesol ac yn anghynaladwy mewn lllawer ystyr - er fy mod wrth gwrs wedi elwa'n bersonol o'r prisiau rhad yn y siopau.

Byddai byth cweit yn deall yr "hiwmor cefen gwlad" y bu Rhydian Mason yn ei hamddiffyn mewn modd mor gadarn ar ei blog, er fy mod yn parchu'r diwylliant sydd yn esgor ar yr hiwmor hynny. Rwyf yn edmygu Rhydian am amddiffyn y diwylliant hwnnw yn wyneb beirniadaeth gan elfennau o'r wasg Gymraeg.

Ie - efallai mae hen "townie" ydw i fod, yn cael fy "fix" o gefn gwlad ar fy GPS trwy'r gêm helfa drysor Geocaching, a bodloni ar Countryfile am ddealltwriaeth anghyflawn, wythnosol, o faterion amaethyddol.

Ond arhoswch eiliad. (Neu, hyd yn oed, "WHOA!!!!...") 

"...Now I got a brand new combine 'arvester..."

...Fe'm fagwyd (1975-84) gyferbyn fferm sylweddol yn Sir Gaerlŷr, ar yr union bwynt lle mae gogledd y ddinas yn cyffwrdd â Pharc Gwledig ysblenydd Bradgate Park, sydd yn enwog ar gyfer ceirw hardd (yn ogystal â bod yn gartref i Lady Jane Grey, un o wragedd anffodus Harri'r 8fed),

(Llun: Fy merch, Heledd (cot melyn) yn astudio'r ceirw yn Bradgate Park, Tachwedd 2013)



Tractors, trenau  a phêl droed oedd Y Drindod Sanctaidd i mi fel plentyn bach. Yn ôl fy rhieni, roeddwn yn gallu gwhaniaethu rhwng sŵn injan gwneuthuriad Massey Ferguson, David Brown neu Ford, a a'i heibio'r tŷ, pan oeddwn yn ddwy flwydd oed. Rwy'n cofio'r cyffro o fynd ar drip ysgol gynradd i Stonleigh Park yn Sir Warwick, oedd yn ganolfan amaethyddol digon tebyg o ran golwg (hyd y cofiaf) i faes sioe Llanelwedd. 

(Llun: hen tractor David Brown, digon tebyg i'r math y gwelwn fel bachgen bach gyferbyn ein tŷ yn Sir Gaerr pan oeddwn yn fach. Gwelwyd yng Ngerddi Botaneg Cymru ym mis Mai eleni).

I wlad y Barcud Goch

Symud wedyn i bentref Y Borth yng Ngheredigion (1984-93). Diwylliant dinesig, Seisnig y traeth a'r diwydiant gwyliau oedd y prif atyniad i mi fel plentyn yn y lle honno. Ond ar y penwythnosau, byddwn yn mynd ar am deithiau cerdded fynych yn ardal Cors Fochno, neu gwarchodfa adar Ynys Hir, neu pysgota ym Mae Ceredigion. Mae pob un o'r safleoedd hyn yn llefydd hynod nodedig o safbwynt cadwraeth gwledig ac arfordirol. 

Wrth edrych yn ôl (er nad oedwn yn llawn gwerthfawrogi ar y pryd) roeddwn yn ffodus i'w grwydro yng nghwmni fy nhad, y Dr Jim Fowler, oedd yn uchel ei parch yn myd astudio adar. Ar un adeg, cofiaf trampio ar draws caeau gwlyb yn ardal Cwmystwyth, tua 9 oed, pan oedd fy nhad helpu ar brosiect achub y Barcud Goch yng Ngheredigion.

(Llun: Cors Fochno, Y Borth, Ceredigion, Rhagfyr 2013).

Wrth gyrraedd Ysgol Penweddig, Aberystwyth, fe ddes i'n ymwybodol bod 'na ryw fath o raniad rhwng "townies" o dref Aberystwyth a "ffarmers" o gefn gwlad. Mae gen i gywilydd i ddweud bod fy anwybodaeth ifanc wedi peri i mi edrych i lawr ar rai o blant y fferm i raddau. Byddai'r syniad o ymuno gyda Chlwb y Ffermwyr Ifainc, neu ymweld â'r Sioe yn Llanelwedd, hyd yn oed, wedi bod yn syniad cwbl chwerthinllyd i mi. Ond, wrth edrych nôl, collais gyfle euraid fan 'na i ymwneud yn agosach gyda'r bywyd gwledig.

"Iaith enaid ar ei thannau..."

Ar ddechrau blwyddyn 1989, fe'm ddylanwadwyd yn sydyn iawn gan gerddoriaeth Dafydd Iwan ac Ar Log. Er mae cân gwleidyddol "Yma o Hyd" oed yr atyniad cyntaf, fe'm cyfareddwyd yn fuan gan ddwy gân arall, "Y Wên na Phyla Amser" a "Chân y Medd",oed yn cyfleu delweddau cryf o fywyd a thirwedd cefn gwlad:

"Yn y mynydd mae'r gerddinen
Yn y mynydd mae'r eithinen
Yng nghwpanau'r grug a hwythau
Haul ac awel dry yn ffrwythau"

 
(Llun: bysgio gyda Stephen Rees (cyn-aelod o Ar Log) yn nhref Rhydaman, 2010)

Delweddau digamsyniol o gefn gwlad rhamantaidd, a Chymreig felly a liwiodd fy mhen yn 13 oed. Roeddwn yn hapus iawn yn y byd bach hynny - a'm hysbrydolodd yn y pen draw i ddod yn delynor gwerin sydd ar ei hapusaf yn bysgio  yn yr awyr agored. 

"Keepin' it Country"...

Ar yr un pryd, ar ddechrau 1989, fy hoff grŵp pop yn yr iaith Saesneg oedd Bruce Hornsby and the Range. Maes o law, byddai'r cân "The Road Not Taken" yn dod yn hoff gân i mi. Nid yn unig am ei bod yn glampyn o gân serch, ond hefyd oherwydd y delweddau a geir yn y gân o Fynyddoedd Appalachia yn nwyrain yr Unol Daleithiau:

"She walked along on the jagged ridge
She looked out as far as she could see
But the hills out there so up and Down
You only see as far as the next big ridge..."

(Llun: Fy Mab, Gwyn, yn cymryd diddordeb yn nelweddau gwledig America wrth ymyl "Cracker Barrel Old Country Store and Restaurant" yn yr ardal lle mae mynyddoedd Appalachia yn croesi trwy Pennsylvania)

Yn y pen draw, fe agorodd "The Road Not Taken" ffenest i mi ar fyd a diwylliant gwledig Appalachia, yn bennaf felly ei cherddoriaeth gwerin ("bluegrass") a chanu gwlad, sydd bellach yn brif ddylanwad pwysig iawn i mi o safbwynt perfformio, cyfansoddi a chanu alawon gwerin Cymreig. 

Mae nifer o agweddau eithafol "God, Guns and Guts" cefn gwlad UDA yn cwbl anerbyniol i mi. Serch hynny, bydden i'n hapusach yn eistedd mewn cylch yn canu alawon bluegrass gyda cherddorion ceidwadol eu hagwedd ym mryniau gwledig Virginia, nac y bydden i yn ymddangos ar bennod o X-Factor / Britain's Got Talent / The Voice  yn niwylliant "goleuedig" ein cerddoriaeth poblogaidd cyfoes.

I gloi...

Wrth i mi ysgrifennu'r blog hwn, rwyf wedi dod at gasgliad mae'r hyn sydd wrth wraidd fy hiraeth wrth ymadael â Llanelwedd nos Lun yw'r ffaith fy mod wedi bod mor agos, ond eto mor bell, o fywyd wirioneddol gwledig. I ddyfynu "The Road Not Taken" gan Bruce Hornsby unwaith eto:

"...but every time I tried to take her away, she always ran back to the rocks and the trees..."

...felly, byw gyferbyn fferm enfawr yng Nghaerlŷr. Wedi fy amgylchynu gan ffermydd yng Ngheredigion. Ymweld â chefn gwlad ar bob math o weithgareddau hamdden. Cwrdd â phobl cefn gwlad tra ar ddyletswydd gwaith, yn enwedig fel telynor yng ngorllewin Cymru - yn canu caneuon gwerin am gefn gwlad! Ond, ar ddiwedd y dydd, rwyf wastad wedi  dychwelyd adref at fywyd cyfoes, prysur a dinesig ei hanfod. Rwyf yn digwydd byw ym Mhorth Tywyn, sydd yn bentref rhannol wledig. Ond y realiti yw bydd ein byd coler gwyn, proffesiynol yn troi o amgylch Abertawe, Caerdydd Llundain, yn hytrach nag Aberhonddu, Castell Newydd Emlyn a Llanelwedd.

Y Dyfodol


Mae gennyf ddau o blant bach, Heledd a Gwyn. Cânt eu fagu'n rhugl yn y Gymraeg wrth gwrs, ond diwylliant dinesig, yn fwy na dim, bydd yn eu dylanwadu maes o law. Serch hynny, caiff y ddau ohonynt eu fagu i drin cefn gwlad a'r arfordir, bywyd gwyllt a thir amaethyddol, gyda pharch. Caiff y ddau ohonynt ddysgu bod y gwlad a'r dref yn gyd-ddibynol - bydd dim sôn am "townies" neu "ffarmers" yn ein tŷ ni. Cawn nhw ddarllen a dysgu'n iawn am geffylau, pysgod ac adar ac (os oes amser rhwng y zumba, y nofio, y gymnasteg a'r delyn!) cawn nhw fynd i'r afael â'r gweithgareddau gwledig. Cawn nhw ddysgu am sut mae archfarchnadoedd yn crogi gwir ddewis bwyd. Cawn nhw ddysgu bod dewis bwyta cig - neu dewis ymwrthod â chig - yn codi cwestiynau caled nad oes atebion syml iddynt. A, phan fyddant wedi cyrraedd 18 oed, byddaf yn eu hannog i wneud rrhywbeth na wnes i erioed, sef gwersylla yn ystod wythnos y sioe yn Llanelwedd.