"In your hands, the birth of a new day... " (Limahl)

6 August 2010

Dydd Gwener, Awst 6, 2010





Dim bysgio heddiw, ond mae’n werth nodi un stori perthnasol o Faes yr Eisteddfod, sef hanes Tlws Coffa John Weston Thomas (JWT) eleni. Dyma’r cystadleuaeth i berfformio alawon gwerin Cymreig ar delynau di-bedal.
 
Pe bai gan y telyn gwerin yr un bri yng Nghymru a, dyweder, y Coron neu’r Gadair, gellid dychmygu “Rumble in the Jungle” diddorol iawn ar gyfer Tlws John Weston Thomas, gydag enwau mawr y delyn i gyd yn mynd amdani...

...Robin Huw Bowen v Llio Rhydderch v Elonwy Wright v Catrin Finch v Dafydd Roberts v Angharad Evans v Gwyndaf Roberts v Elinor Bennett v Eleri Darkins v Gwenan Gibbard – am rhagbrawf! 

Ond er gwell neu er gwaeth, mae Tlws JWT –  yn nhermau pêl droed -  siwr o fod yn agosach at “League 1” Lloegr (Charlton, Brentford, Plymouth...) na Chwpan y Byd. Eleni, er engrhaifft, un o ddisgyblion ifanc Elinor Bennett aeth â’r tlws, yn hytrach nag Elinor Bennett ei hun. Yn ddifyr iawn (ac yn arwyddocaol efallai), roedd y tri cystadleuydd arall yn hannu o Ganolbarth Lloegr, a hynny oherwydd gwaith mentora Helen-Elizabeth Naylor o gwmni www.telyn.com. Dyma gwmni sydd wedi ei leoli, o bobman, yn Swydd Derby! Gobeithio bydd ymdrechion Helen-Elizabeth a’i ddisgyblion yn ysgogi telynorion gwerin Cymru i gystadlu yn y JWT. Yn sicr, mae’r sefyllfa wedi codi cywilydd arna i, ac rwyf yn edrych ymlaen at gystadlu am y tro cyntaf yn Wrecsam yn 2011.