Dydd Iau, Awst 5, 2010
Rhyw fath o arbrawf cymdeithasol
heddiw – bysgio yn nhre’r Brifwyl i weld faint o Eisteddfodwyr oedd yn ymwneud â chanol tref Glyn Ebwy.
Yr ateb: dim lot. Un canwr newydd
ddod mas o rhagbrawf yn edrych am rhywle i fwyta, ac un ferch â chrys-t Côr Glanaethwy, a’m hanwybyddodd yn llwyr.
Sgwrs difyr gyda ffotograffydd o Huddersfield (o Lyn Ebwy’n wreiddiol) wedi
dod nôl i ymweld â’r Eisteddfod. Prisiau mynediad i’r maes yn rhy uchel i’r
bobl leol, meddai.
Menyw 80 oed yn mynnu ymuno gyda
mi i ganu “Bugeilio’r Gwenith Gwyn”. “...my
headmaster was a Welsh nationalist and that was one of the songs we had to
sing”.
Gorffen yn gynnar am hanner dydd
er mwyn mynd lawr i’r Maes, via un o’m
hoff caffis o’r dyddiau pan o’n i’n bysgio yma’n amlach: y Central Cafe ar y
stryd fawr. “Toastie” bacwn ac ŵy
yn dod ag atgofion yn ôl.
Doedd y £31 a wnes i heddiw ddim
yn adlewyrchiad teg ar Lyn Ebwy fel safle bysgio. Fel mae fy ystadegau o’r
gorffenol yn awgrymmu, bydden i wedi cyrraedd £50 yn rhwydd heddiw pe bawn i
wedi cario mlaen i chwarae.
Ystadegau Glyn Ebwy
Perfformiadau: 9
Cyfanswm: £523
Sgôr cyfartalog: £58.11
Sgôr uchaf: £105