Dim bysgio heddiw – glaw trwm.
Cyfle cyntaf felly i fwrw ‘mlaen gyda syniad newydd:
Bore dydd Sadwrn diwethaf,
clywais cyfweliad diddorol gyda Heather Jones ar Radio Cymru.
Ar y rhaglen, soniodd Heather
Jones ei bod yn ennill ei thamaid mewn cartrefi henoed. Roedd hyn yn dipyn o lightbulb moment i mi, o ran symud pethau
‘mlaen. Bûm yn chwarae’n
achlysurol mewn cartrefi henoed yn y gorfffennol, ond heb ystyried y gallen i
chwarae cylchdaith o gwmpas y cartrefi, a hynny yn lle bysgio.
Felly heddiw, dyma fi’n ysgrifennu
30 o lythyron at gartrefi o gwmpas Sir Gaerfyrddin a chroesi bysedd am ymateb
cadarnhaol...