Dydd Gwener, Awst 13, 2010.
Treulio tipyn o’r awr gyntaf yn
siarad gyda phobl, yn hytrach na chwarae. Ymhlith y rhain oedd menyw o Gernyw
sydd wrthi’n dysgu’r delyn, a menyw lleol arall sydd â ddiddordeb dechrau dysgu. Hefyd yr annwyl Dan Morris, y
ffidlwr Cymreig o fri. Atgofion da o chwarae gyda fe yng Ngŵyl Ffidlan, Y Bala, nôl yng Ngaeaf 1997. Yn falch i ddal
lan gydag e unwaith eto.
Un ddigwyddiad bach arall –
gorfod stopio chwarae am rhai eiliadau wrth i’r dractor enfawr yma cael ei
gludo ar lori trwy’r stryd fawr: