Dydd Iau, Awst 12, 2010
Colli hanner awr ar y ddechrau
oherwydd cawod ysgafn o law. Ond y prês
yn llifo i mewn ar ol rhoi gychwyn ar bethau – mae Aberteifi bellach wedi
ennill ei phlwy fel canolfan bysgio pwysig i mi yn ystod y cyfnod newydd ‘ma.
Cael darn £2, a sgwrs dymunol
iawn, gyda’r darlithydd Cymraeg Dylan
Foster Evans.
Cwrdd â menyw sydd gyda ddiddordeb mewn gwersi telyn.
Un eiliad bizarre tra’n canu un o gaeuon Dafydd Iwan i blant, “Galop, galop a
charlam”. Hen fenyw Cymraeg yn fy ngheryddu gan ofyn “pa iaith yw hwnna te?”,
ond yr eiliad wedyn dyma Brummie yn dod ataf mewn tipyn o barchedig
ofn, gan ddatgan yn ddidwyll: “I very
much appreciate your music”, a rhoi cyfraniad hael! Rhyfedd o fyd...