Dydd Sadwrn, Awst 14, 2010
Bore tawel iawn. Cwrdd â dyn difyr o Norwy oedd wedi dod i
Gymru via. cartref i blant amddifad
yn Newcastle-upon-Tyne. Bellach wedi dysgu’r Gymraeg yn rhugl – hyfryd o foi.
Wrth i mi bron â gorffen, cefais fy nghythruddo
gan ŵr Cymraeg arall â daeth ataf gan gofyn am ddarn punt.
“Rwy’n down and out, chi’n gweld”. Yeah, right. Stwffio 50c yn ei law
er mwyn osgoi “sefyllfa Stirling” arall (sef rhywbeth ddigwyddodd imi nôl tra’n bysgio yn nhref Stirling
ym 1996): “...give me a pound for a
bottle of Vodka...there’s a hospital in Stirling where people go when they get
hurt. Now give me a pound for a bottle of Vodka”.