Dydd Llun, Awst 16, 2010
Cwrdd ag ymwelwyr o Alberquerque,
New Mexico. Gwrthod y temptasiwn i ganu am yr “Hot Dogs” a’r “Jumping
Frogs”, chwedl grŵp Prefab
Sprout.
Dau perl arall gan y pyntars
heddiw:
“You can’t be Welsh with an accent like that”, meddai un fenyw a
dybiai mai Sais oeddwn i. Ychydig dyddiau ynghynt, fe taerodd menyw arall (mewn
caffi yn Aberteifi) mae Gog o Gymro oeddwn i!
“Hello, I’m Henry the Eighth”, meddai gŵr arall, gan rhoi ei carden busnes i mi. Bellach mae croeso i
mi ymuno ym mherfformiadau y “Good King
Hal” os byddaf byth ar grwydr yng Ngwlad yr Hâf...