Dydd Iau, Medi 2, 2010
(Wedyn gig yng nghartref Plas y Môr, Porth Tywyn)
Dyma’r tro cyntaf i mi fynd mas i
bysgio gyda’r CD’s ar werth. Roeddwn wedi gosod pris o £10 i gychwyn. Ond,
daeth yn glir bod yn rhaid i mi gostwng y pris yn syth i £5, a hynny yn ddilyn
sgyrsiau gyda ddwy ddynes gwahanol (un lleol, y llall o Swydd Berkshire) oedd
yn frwd iawn dros fy ngherddoriaeth, ond ddim am brynnu’r CD.
Yn y gig, dyma fi’n cymryd y
delyn mas o’i cas a rhywun yn ebychu “gosh
that’s a small one!” Y jôcs
hynaf yw’r rhai gorau ‘sbo...