Dim bysgio, ond defnyddio’r diwrnod
i gynhyrchu 15 CD. Creu clawr digon amaturaidd gyda phapur a sellotape: bydd hyn yn gorfod gwneud tro
nes fy mod yn gallu ariannu rhywbeth gwell: rwyf wedi gosod rheol caeth bod yn
rhaid i brosiect y CD talu am ei hunan. Eto i gyd, teimlad digon cyffrous wrth
weld y CDs yn eu cloriau mewn pentwr taclus ar y bwrdd: mae creu CD yn fenter y
dylswn i fod wedi ceisio gwneud blynyddoedd yn ôl.