"In your hands, the birth of a new day... " (Limahl)

15 November 2013

Java Bean Café, Glyn-nedd

Rwy'n hoff o'r caffi yma, sydd yn rhan o Ganolfan Hyfforddi Glyn-nedd. Brecwast wedi'i ffrïo heb fod yn rhy seimllyd. Yma, yn Hydref 2011, cychwynais cyfansoddi cân "Criw Porth Tywyn" dros baned o de. Bellach, mae'r cân wedi cael ei fabwysiadu gan grŵp gwerin newydd o'r gogledd, "Triawd". Dywedir yn y diwydiant pop y dylech fod yn hapus os cewch lwyddiant gyda dim ond un cân yn ystod eich gyrfa. Wel, gwireddwyd y nôd hynny yn ystod 2013 diolch i Triawd - a chynhesrwydd y Java Bean Cafê yng Nglyn-nedd!


I like this café which is part of the Glynneath Training Centre. They manage to pull off the feat of doing non-greasy all-day breakfast. It was here in Autumn 2011 that I started composing my song "Criw Porth Tywyn" over a cup of tea. The song has since been adopted and performed regularly by the group "Triawd". It's an old truism in the pop industry that you've done well if you write one hit single - by that measure I should be able to die happy thanks to Triawd - and the homely surrounds of the Java Bean Café!