OUR FAITH
EIN FFYDD
Unitarian voices of Wales in 2013 • Lleisiau Undodiaid
Cymru yn 2013
Rhagair
Rydym yn byw mewn cymdeithas gyfnewidiol, flin
a llawn gofid. Mae’r diwylliant newyddion 24-awr yn golygu y cedwir llygad
barcud cyson ar ein heconomi, ein gwleidyddiaeth, ein diwylliant poblogaidd, a’n
sefydliadau crefyddol er mwyn dod o hyd i’r camgymeriad neu’r llithriad lleiaf.
Mae datblygiad y rhyngrwyd ers yr 1990au
yn golygu bod pobl yn cyfathrebu gyda’i gilydd mewn ffyrdd na ellid eu dychmygu
o’r blaen. Mae twf Trydar a Facebook yn ystod y pum mlynedd diwethaf
yn golygu bod e-bost hyd yn oed yn cael ei weld yn rhywbeth hen-ffasiwn erbyn
hyn gan genedlaethau iau.
Wrth gwrs, mae llawer o’r newidiadau yma
wedi digwydd er gwell. Mae dulliau cyfathrebu newydd wedi meithrin cymdeithas
fwy agored a thryloyw. Ar lefel mwy personol, gallwn gysylltu â hen ffrindiau a
chysylltu’n rhwydd gydag aelodau ein teulu ar draws y byd.
Fodd bynnag, mae chwant cymdeithas i rannu
ac i wybod popeth yn syth hefyd yn creu problemau newydd. Yn y byd ehangach,
caiff dadleuon cymhleth eu crisialu yn un pwt byr ar gyfer newyddion yr awr
(neu gwta 140 llythyren ar gyfer Trydar). Gall hynny arwain at
gamddealltwriaeth, rhwystredigaeth a dicter.
Hwyrach bod y duedd i ddadlau a barnu ar
fympwy i’w gweld ar ei mwyaf eglur yn y dadlau cynyddol yn ystod y blynyddoedd
diwethaf rhwng Cristnogaeth efengylaidd ac Anffyddiaeth ymosodol.
Mae gennym gyfle fel Undodiaid i ddangos
ffordd fwy myfyriol o feddwl am ffydd, ffordd sydd yn rhydd o dyndra a
gwrthdaro. Mae’r llyfryn yma’n ymgais fach i wneud yr union beth hwnnw. Mae’r
llyfryn yn seiliedig ar ryw ddau ddwsin o ddatganiadau ffydd gan Undodiaid ar
draws Cymru. Gofynnwyd iddynt “Beth mae eich ffydd yn ei olygu i chi?” Rydym yn
ddiolchgar i’r unigolion a’r cynulleidfaoedd a atebodd yr alwad.
I’r rhai ohonoch sydd yn newydd i’r Undodiaid,
rydym yn gobeithio bod y daflen yn rhoi braslun o weledigaeth Undodiaid yng
Nghymru yn 2012/13, ac yn cynnig golwg ar ffydd newydd a ffordd newydd o feddwl
am bethau. Gobeithiwn y byddwch yn ystyried rhai o’r syniadau yn y daflen, ac
efallai yn dod i gyswllt â’r Undodiaid pan fyddwch yn teimlo’n barod i wneud
hynny.
Bydd darllenwyr sydd eisoes yn Undodiaid
ymrwymedig yn gwybod, fel gyda phob ffydd arall, bod ein ffydd ninnau hefyd yn
dod ag anawsterau yn ei sgil. Ar adeg pan fo enwadau traddodiadol ar drai,
hawdd yw chwilio am y wedd negyddol ym mhob sefyllfa. Gallwn hefyd fod mor
brysur gyda phwyllgorau a strwythurau Undodaidd nes rhoi hanfodion radical a
chariadus ein ffydd i’r naill ochr. Hyderwn y bydd y llyfryn hwn yn cynnig rhai
munudau i chi allu myfyrio a meddwl o’r newydd.
Hoffem gynnig un sylw arall. Yn 2013,
rydym yn ddathlu Dau-ganmlwyddiant Deddf y Drindod 1813. Cyn 1813, roedd
daliadau Undodaidd, yn union fel y rhai yn y llyfryn hwn, yn cael eu hystyried
yn Gabledd gan y wladwriaeth Brydeinig. Rydym felly’n cyflwyno’r llyfryn hwn i’n
rhagflaenwyr yn y ffydd: y gwŷr a’r merched hynny a gadwodd ddaliadau Undodaidd
yn fyw yn yr ynysoedd hyn cyn 1813.
Dr Carwyn Tywyn (Ysgrifennydd, Y Gyfadran Gymreig, Yr Undodiaid a’r Eglwysi
Cristnogol Rhydd)
Cariad a chyfeillgarwch
“Pan mae ansicrwydd ac ofnau o’m cwmpas ar bob tu, ceisiaf fod yn ddigon
dewr i ddewis cariad.”
(Nia Roberts,
Bangor)
“Criw o
gyfeillion yr ydw i’n cael y fraint o rannu taith ysbrydol o gyfiawnder,
goddefgarwch, a thrugaredd yn eu cwmni.” (Dewi Owen, Caerdydd)
“Pan oedd fy
chwaer a minnau’n fach, roedd fy rhieni wastad yn dweud ‘Daliwch ddwylo a gofalwch
am eich gilydd.’ Rwyf wedi tyfu erbyn hyn, dim rhieni a dim chwaer, felly does
neb yn dweud wrthyf i ddal dwylo, heblaw am fy eglwys (mewn ffordd o siarad)
ond maen nhw’n dda wrth wneud hynny ac rydym yn gofalu am ein gilydd bob amser.” (Marian Whippey, Aberdâr).
Rhyddid Barn
“O fewn i Undodiaeth, rwy’n cael fy nyrchafu’n ysbrydol, yn rhydd rhag cadwyni
a hualau.” (Anhysbys, Aberdâr)
“Wedi dod o
draddodiad oedd yn eithaf caeth, roedd yn rhyddhad dod o hyd i grŵp o bobl sydd
heb fod yn gaeth ond sydd yr un mor ymwybodol â finnau o ddirgelwch bywyd a’r
bydysawd.” (Paul Smith, Bangor)
“Cyfle i ymhél â chwestiynau ysbrydol heb ddogma ac i fyw bywyd
gwell mewn cymundeb ag eraill.” (Sarah Boyce, Caerdydd)
“Mae Undodiaeth yn rhoi cymorth imi beidio â
derbyn syniadau pobl eraill yn ddi-gwestiwn ac i geisio byw bywyd teg a
chyfiawn. Mae addoli mewn cymuned Undodaidd yn rhoi
cyfle inni agor ein calonnau a'n meddyliau i deimladau, syniadau a chwestiynau,
heb gael ein rhwystro gan gredoau cul, gan dderbyn nerth oddi wrth ein
gilydd."
(Sheila Cousins, Hwlffordd)
“Rwy’n mwynhau
bod yn rhan o gymuned Undodaidd am y pethe nad yw’n eu cynrychioli: dyw hi ddim
yn anoddefgar, yn ddi-groeso a chaeth, ond mae’n parchu ac yn croesawu pawb, beth
bynnag fo’u credoau.” (Alun Watts, Aberdâr)
“Rwyf fi wedi
dysgu bod byw fy ffydd yn cael ei gyflawni’n well yng nghyd-destun cymuned
Undodaidd bwrpasol ble rwy’n rhydd i fyw mewn perthynas gywir â mi fy hun, ag
eraill, a chyda dirgelwch Duw.” (Y Parch. Liz Birtles, Bangor).
“Mae fy ffydd Undodaidd yn rhydd rhag dogma a chymhlethdodau – mae’n
caniatáu’r rhyddid i mi feddwl drosof fy hun.” (Ken Morgan, Cefn Coed y Cymer)
“Mae fy ffydd yn ei gwneud hi’n bosib i mi ymhél â’m natur ysbrydol fy hun
wrth i mi deithio’r ffordd: mae Undodiaeth yn ffordd o fyw.” (Lis Dyson-Jones,
Llywydd y GA 2012-13)
“Fe wnes i ganfod
Undodiaeth yn 29 oed, a minnau bellach yn 50, mae’n dal i fod yn sylfaen i’m ffordd
o feddwl ac yn taflu goleuni ar fy ffordd o weld y byd.” (Marie Rosenberg,
Nottais)
“A minnau’n
ceisio dilyn Seren Gwirionedd Cristnogol-Sŵffi, a honno’n goleuo teyrnas ag
ynddi Dduw Tosturi, Gwybodaeth a Harddwch, rwy’n ceisio cerdded i gyfeiriad nodwydd
y cwmpawd hwnnw, sydd, i fi ar hyn o bryd, yn disgleirio ar Eglwys Undodaidd
Highland Place.” (Mel Jones, Aberdâr)
Cymuned
“I mi, mae bod
yn Undodwr yn golygu perthyn i grŵp cynhwysol o bobl sy’n hael, yn driw, yn gariadus,
yn ddawnus ac sydd â brawdgarwch gwirioneddol at ei gilydd yn ogystal ag ymlyniad
agos at eu cymuned leol a’r tu hwnt.” (Barbara Chivers, Aberdâr)
“Roedd pum cenhedlaeth
o’m teulu yn Undodiaid pybyr ac, yn naturiol, fe gafod fy rhieni ddylanwad ar fy
ffydd a fy nghredoau crefyddol. Cafodd fy naliadau eu cynnal a’u cryfhau gan
bump gweinidog Undodaidd yng nghapeli’r Graig a Gellionnen.” (Colin Morgan,
Gellionnen a Graig)
“I mi, mae bod
yn Undodwr yn golygu ’mod i’n aelod o gymuned lle rwy’n cael fy annog i ddysgu
a thyfu.” (Ella Lewis-Jones, Aberdâr)
“Gyda fawr o ffydd
mewn 'ffydd' a llai fyth mewn canllawiau diwinyddol neu destunau anffaeledig, dw
i angen pob cymorth posib drwy gwmnïaeth fy nghyd ymofynwyr a’n hetifeddiaeth ddiwylliannol,
gelfyddydol a gwyddonol (yn cynnwys, wrth gwrs, yr athrawon crefyddol mawr) i ymlwybro
drwy’r byd a thyfu mewn tosturi ac empathi at eraill a chyfrannu at warchod y blaned
yr ydym, yn rhyfeddol, wedi esblygu arni.” (Yr Athro Gareth Wyn Jones, Bangor)
“Rwy’n Undodwr
am fod hynny’n caniatáu i mi edrych dros y ffin a blasu syniadau gwahanol sy’n
rhan o’r gymuned Gristnogol neu grefyddau eraill y byd, fel bod modd i fi werthfawrogi
beth y medran nhw ei gynnig a deall y
bobl hynny sy’n gweld pethau’n wahanol.” (Parch. Emeritws Eric Jones, Aberdâr)
“Teimlad o berthyn.”
(Barbara Clifford, Glasgow ac yn wreiddiol o Gymru).
“Rwy’n caru’r gymdeithas
yn fy eglwys, gan fy mod i’n teimlo’n agos at Dduw ac mae fy ysbryd yn codi –
nid yn unig drwy’r gwasanaethau amrywiol ond hefyd trwy gariad a chefnogaeth y
gymuned, sy’n cofleidio un ac oll.” (Anne Watts, Aberdâr)
Athroniaeth
“Yn fy eglwys
Undodaidd, mae’r darlleniadau yn peri i mi fod yn fwy ymwybodol o fy myd mewnol ac yn fy annog i ystyried athroniaethau
amrywiol llawer o grefyddau. Mae hynny yn ei dro yn help i mi ddeall troeon bywyd;
ac yna y tu allan i’r gwasanaeth, mae cefnogaeth aelodau wedi cynnig help i mi ar
adeg anodd iawn yn fy mywyd, gyda chariad a dealltwriaeth.” (Joan Harlow,
Aberdâr)
“Dw i ddim yn berson crefyddol ond mae Undodiaeth yn help i fi drio byw bywyd Cristnogol saith diwrnod yr wythnos.” (Dai Williams, Alltyblaca)
“Rwy’n Undodwr am
fod canllawiau rhyddid, rheswm a goddefgarwch yn caniatáu i imi barchu a
chynnwys pawb ar fy nhaith o ddydd i ddydd wrth geisio dilyn athrawiaeth Iesu.”
(Anne Jones, Aberdâr).
“...sgwrs gyda
Duw, gweddi, ysgogiad i’r cydwybod, sialensiau a sicrwydd.” (Robin Attfield,
Caerdydd)
“Fy ffydd i yw eich ffydd CHI – credaf fod pob gwir grefydd yn tarddu o’r un ffynhonnell, a’i phwrpas yw undod y ddynol-ryw, nid anghydfod a dicter.” (Gerald Williams, Bangor)
“Ei thraddodiad radical, y gred mewn cyfiawnder
cymdeithasol, trugaredd a daioni – dyna’r pethau a’m denodd at Undodiaeth yn y
lle cyntaf a dyna’r egwyddorion a’r dyheadau sy’n fy nghadw yma o hyd.” (Elaine
Davies, Llywydd Cymdeithas Undodaidd Deheudir Cymru)
“Lle i dyfu’n ysbrydol wrth i syniadau'r
meddwl a theimladau'r galon ddod ynghyd a throi’r rheiny’n
weithredoedd
tosturiol tros gyfiawnder a thegwch er mwyn creu cymunedau sy’n seiliedig
ar gariad.” (Parch. Cen Llwyd)
“Mae Undodiaeth
yn bont rhwng fy nhreftadaeth Gristnogol a’m meddwl agnostig: yn ôl llinyn Cyffredinolaidd
(Universalist) ein ffydd mae pob un person
ar y ddaear yn rhannu’r un pwrpas a thynged, waeth beth yw ei gredo na’i ffydd.”
(Dr Carwyn Tywyn, Ysgrifennydd Gyfadran Gymreig yr Undodiaid)
Cyhoeddwyd yn
2013 gan Y Gyfadran Gymreig
Yr Undodiaid
a’r Eglwysi Cristnogol Rhydd
Essex Hall,
Llundain