Roedd yn syrpreis braf i ddod adref a gweld bod Hywel wedi anfon carden post i mi o Frwsel, wedi i Gymru fod yn chwarae gêm yn erbyn Gwlad Belg. Mae anfon cardiau post yn hen draddodiad ymhlith ein grŵp ffrindiau o Benwrddig sy'n mynd yn ôl at ddiwedd y 1980au, mae'n debyg mae Hywel a fi yn unig sy'n dal ati y dyddie' 'ma.