"In your hands, the birth of a new day... " (Limahl)

28 September 2013

Priodas Mark Cole

Ces i hwyl yn canu'r delyn ym mhriodas Mark ac Alyson Cole yn ddiweddar. Daethom ar draws ein. gilydd pan oeddwn yn gohebydd gwleidyddol gyda Chylchgrawn GOLWG yn 2006-07. Ers hynny, rydym wedi cwrdd ar yr achlysuron rwyf i wedi bysgio yn Aberteifi ers 2010. Fel unigolion, ry'n ni'n perthyn i draddodiadau gwleidyddol gwahanol, ond rwy'n falch iawn i'w gyfri'n ffrind annwyl. Llongyfarchiadau Mark ac Alyson, a phob dymuniad da at y dyfodol.

Llun: "Triawd o bwdin" ym mrecwast priodas Mark ac Alyson, Gwesty Nant-y-Ffîn, ger Clunderwen.