"In your hands, the birth of a new day... " (Limahl)

8 April 2012

Recordio gyda Fflur Dafydd



Roedd yn dipyn o sioc i gael gwahoddiad munud olaf gan Fflur Dafydd i recordio ar ei chryno ddisg newydd. Roeddwn i ffwrdd yn Lloegr pan ddaeth yr alwad gan Fflur, ond llwyddwyd i anfon MP3 o'r trac perthnasol, er mwyn gweithio rhywbeth mas yn fy mhen ar gyfer recordio heddiw. Penderfynu bod yn rhaid defnyddio'r delyn deires ar gyfer yr achlysur - bywyd cyfoes i'r hen offeryn rwyf mor lwcus i berchen.

It was a bit of a shock to have a last-minute invite from Fflur Dafydd to record on her new CD. I was away in England when the call came, but Fflur managed to send an MP3 to my mobile phone so that I could work something out in my head for today's recording. I decided that I just had to use the triple harp for the occasion - an outing in the contemporary world for the old (originally 1860s) instrument that I am so lucky to own.