Telynor gwerin: y delyn deires Cymreig a'r delyn Geltaidd ~ Welsh Folk harper: Welsh triple harp and Celtic harp.

30.11.11

1991-2011: 20 mlynedd yn delynor / 20 years of harping

Bilingual Post - Please scroll down

Ym mis Hydref 2011, roeddwn yn dathlu 20 mlynedd ers i mi gael fy nhelyn cyntaf oddi wrth Mam a Dad. Er mwyn nodi'r achlysur, rwyf wedi ail-wampio'r wefan.

Bellach, mae'r wefan yn cynnwys alawon i'w lawrlwytho, hanes 20 mlynedd o gigs, rhestr cyfredol o gigs sydd ar y gweill, yn ogystal â lluniau a phosteri o'r archif. Byddaf yn dal i'w ddiweddaru'n gyson o hyn ymlaen - gan gynnwys blogio am yr holl drefi rwyf wedi bod yn bysgio ynddynt.

Er nad wyf yn y rheng flaenaf o delynorion Cymru, mae gennyf falchder mawr yn fy nghrefft, ac yn y traddodiad gwerin Cymreig. Gobeithiaf byddwch chithau yn mwynhau pori ar rhai o'r atgofion, lluniau, ac alawon - gan obeithio bydd y wefan yn ysgogi eraill i gymryd diddordeb yn y traddodiad gwerin, ac i sylweddoli ar y posibiliadau -a'r hwyl! - sydd yn deillio o fod yn rhan ohono.

In October 2011, I celebrated 20 years since I was given my first harp by Mam and Dad. I have marked this occasion by revamping my web site.

The website now contains tunes for download, 20 years' gig history, a current list of forthcoming gigs, along with posters and pictures from the archive. I will continue to update the blog regularly from now on, including blogging about all the various towns I have busked in.

I am by no means one of the best harpists in Wales - far from it. However, I have a fierce pride in my craft, and in the folk tradition of which I am part. I hope that you will also enjoy browsing the pictures, melodies and memories on this website. I hope this website will encourage others to take a look at the folk tradition, and to consider some of the possibilities - and fun! - that can be had by being a part of it.