Mae arlunydd ifanc o Geredigion wedi creu delwedd newydd ar gyfer yr Undodiaid yn y "Smotyn Du".
Cafodd Rhiannon Roberts ei gomisynnu gan y Gymdeithas Undodaidd lleol i ddylunio 13 capel y Smotyn du mewn un llun trawiadol. Cafodd y llun ei lawnsio yng Nghapel y Cwm, Cwmsychbant, ar Nos Iau Tachwedd 24, 2011
Yn y llun mae'r Parch. Cen Llwyd, Elaine Davies (Llywydd Cymdeithas De Cymru), Rhiannon Roberts, a'r Parch. Wyn Thomas.