"In your hands, the birth of a new day... " (Limahl)

24 October 2011

Ar Daith / On Tour: 1999

GIGS - 1999

08/10/99 Clwb y Bont, Pontypridd (Ysbryd Chouchen)

30/01/99 Oxwich Bay, Gŵyr.

27/02/99 Y Neuadd Gymuned, Penclawdd

01/03/99 Ysgol Erw’r Delyn, Penarth

05/03/99 Cyngerdd Preifat: Margaret Waters, Swydd Henffordd

07/03/99 Neuadd y Seiri Rhyddion, Rhisga

19/03/99 Oxwich Bay, Gŵyr

04/04/99 Y King’s, Casnewydd

17/04/99 Y Maes Manor, Y Coed Duon

01/07/99 Plas Nanteos, Aberystwyth

10/07/99 Gŵyl Werin y Cnapan (Ysbryd Chouchen)

07-08/08/99 Y Gŵyl Bysgio, Porthcawl

14/08/99 Y Plasdy, Llancaiach

05/09/99 Allt yr Ynys, Y Fenni

07/10/99 Canolfan y Graddedigion, Prifysgol Caerdydd

09-10/10/99 Gŵyl Cocos a Cheltiaid, Abertawe

20/10/99 Tŷ Olwen, Treforys

30/10/99 Castell Coch a Chastell Caerdydd

04/11/99 Tŷ Olwen, Treforys

01/12/99 Tŷ Olwen, Treforys

16/12/99 Tŷ Olwen, Treforys


Heb unrhyw amheuaeth, dyma oedd fy nghyfnod anoddaf fel telynor llawn-amser. Doedd y PhD ddim i'w weld yn arwain at unrhyw gyfeiriad o werth, ac roeddwn yn cael amser caled yn ariannol. Roedd deffro pob bore ar gyfer bysgio yn mynd yn straen, ac roeddwn yn byw gyda chriw o chyfeillion lle roedd gormod o demtasiwn i potsian o gwmpas, yn hytrach na gweithio.Roeddwn wedi cael fy hunan mewn i picil go iawn. Rhywsut, yng ngwanwyn 1999, llwyddodd fy niweddar Dad i'm perswadio i ddal ati gyda'r astudiaethau. Wedyn, yn Awst 1999 bu i'm cariad, Kathryn a minnau, penderfynnu byw gyda'n gilydd am y tro cyntaf, yn ardal Cathays. Wedi chwilio cartref mwy sefydlog, dyma oedd y trobwynt pwysicaf ar gyfer y PhD. Llwyddais hefyd i ail-gychwyn y momentwm yn ystod Hydref 1999. Un nodyn o dristwch: o gwmpas Hydref 1998, roeddwn wedi dechrau synhwyro ychydig o densiwn ymhlith aelodau Ysbryd Chouchen. Ces i ddim esboniad agored, ond erbyn Gwyl Cnapan 1999 daeth yn weddol amlwg bod cnewyllyn y grwp am newid y cyfeiriad cerddorol, ac fe ddaeth y gigs gydag Ysbryd Chouchen i ben ar ol dwy flynedd hapus gyda'r grwp. Fodd bynnag, rwyf yn ddiolchgar o hyd, yn enwedig i "Huw M" am y cyfleuoedd a daeth i'm rhan gydag Ysbryd Chouchen rhwng 1997-99.

Without question, 1999 was my most difficult year as a full-time harpist. The PhD seemed to be drifting, and I was having a hard time financially. Waking up every morning to go busking was becoming a strain, and I was living with a crew of friends where there was too much temptation to mess around rather than knuckle down to work. Somehow, in spring 1999, my late father persuaded me to stick at the studies. Then, in August 1999, my girlfriend Kathryn and I decided to move in together for the first time, in the Cathays area of Cardiff. Finding a settled home was the most important turning point of the PhD, and I managed to regain momentum with the busking as well during the Autumn. One sad note: during the end of 1998 I had started to sense tension within the ranks of Ysbryd Chouchen. I never really received a full explanation, but it became clear that the nucleus of the group wished to change musical direction. It became apparent that my gig at the 1999 Cnapan Festival would be my last with the group, after two happy years with them. Nevertheless, I am very grateful to Ysbryd Chouchen, especially "Huw M" for the opportunities that came my way during 1997-99.