"In your hands, the birth of a new day... " (Limahl)

18 August 2010

Llanbedr Pont Steffan: £54



Dydd Mercher, Awst 18, 2010

Llun: Siop a chaffi Caxton News

Stryglo i chwarae heddiw ar ol bwyta cyri cartref (hyfryd) gan fy ngwraig neithiwr! Dechrau sigledig, cawodydd o law, dim ond rhyw £7 erbyn 11.30, ond perfformiad cryf wedi hynny.  Seibiant cinio yn Caffi Caxton News, sef siop bapur gyda chaffi â seddi cyfforddus - a band eang am ddim! Wedyn nôl i fysgio yn y prynhawn. Tua diwedd y prynhawn, cael sgwrs bywiog gyda un o’m cyn-athrawon yn Ysgol Penweddig, Vivian Davies. Pur anaml o’n i’n cael gwersi ganddo yn yr ysgol, felly roedd yn ddifyr bod rapport cryf iawn rhyngddon ni wrth gwrdd fel dau oedolyn, ac yntau’n gryf ei gefnogaeth i’m gwaith gyda’r delyn.