Dydd Mawrth, Awst 24, 2010
Yr ail gig yn deillio o’r
“llythyron Heather Jones” at y cartrefi henoed. Hen ŵr hoffus (o Gydweli’n wreiddiol) yn mynnu canu “Dafydd y
Garreg Wen” rhwng pob un o’m caneuon – gorfod defnyddio sgiliau diplomyddol er
mwyn gallu bwrw ‘mlaen gyda rhaglen fy hunan! Croeso twymgalon iawn, a’r
cartref yn bwcio dyddiad arall i mi ganu yno: hwb i’r hyder wrth i mi barhau i
drefnu’r gigs yn y cartrefi.