"In your hands, the birth of a new day... " (Limahl)

14 October 2013

Castell Newydd Emlyn, 14 Hydref 2014


(Bilingual post, please scroll down)

Roedd yn braf ddod nôl yma er mwyn cychwyn go iawn ar gyfres newydd o fysgio, a fydd gobeithio'n para am gyfnod hir i'r dyfodol, wedi ei threfnu o gwmpas fy swydd newydd. Cefais ddwy awr a hanner digon tawel ond boddhaol ennill £31 a gwerthu un CD er gwaethaf y gwynt main, a thorri tri o dannau'r delyn. Ond rhoddais gynnig ar sawl cân newydd er mwyn ail-danio fy niddordeb. Ces i 3 x Darn £2, a chwrddais â ffrind newydd o fyd Trydar -  @Siafins - a roddodd yn hael mewn i'm het! Wedyn ymlaen at "Gaffi Rhif 11" am ginio...

It was good to come back to CNE to kick start what will hopefully be quite a long and settled period of busking, arranged around my new job. It was a fairly uneventful but very satisfactory 2 and a half hours, I made £31 and sold one CD, despite the cold breeze and snapping 3 strings. I also tried out several new songs, which is an attempt to re-kindle the old spark. I earned 3x£2 coins and met a new friend from the world of Twitter - @Siafins - who contributed generously to the hat! Then n to "Cafe Number 11" for lunch...