Tali teyrnged ar y ffordd nôl o gig yn Llanybydder. Roedd y gân coffa gan Dafydd Iwan (gydag Ar Log), i D.J. Williams, sef "Y Wên Na Phyla Amser", yn gân allweddol wrth imi ddarganfod canu Cymraeg yn ystod fy arddegau, gan fod y gân yn trac 1, ochr 1 o albym gasét "Yma o Hyd" y bûm yn gwrando arno troeon.