"In your hands, the birth of a new day... " (Limahl)

23 May 2012

Cilâ

Stats

Wedi chwarae / Played: 4

Cyfanswm / Total: £243

Cyfartaledd / Average: £60.75

Uchaf / Highest: £153

Gwerthiant CD Sales:

Dylanwad / influence

Mae Cilâ yn lleoliad bysgio eithriadol o ddiddorol. Mae'n ymddangos fel sgwâr pentref bach, ond mewn gwirionedd mae'r pentref yn gorwedd ochr yn ochr â faestref enfawr (a weddol cefnog) o ddinas Abertawe, gyda phoblogaeth enfawr. Wedi gwerthu nifer sylweddol o CDs yma a chael sawl cynnig gig. Fe wnes £153 yma mewn hanner diwrnod ar Noswyl Nadolig 2011!

Killay is an exceptionally interesting busking destination. It appears like a small village square, but in reality it backs onto a huge (and fairly well-heeled) residential suburb of the city of Swansea, giving it a big potential footfall. I have sold lots of CDs here and some interesting gig offers. I made £153 here in half a day on Christmas Eve 2011!

18 May 2012

Glyn-nedd

Stats

Wedi chwarae / Played: 2

Cyfanswm / Total: £30

Dylanwad

Mewn caffi yng Nglyn-nedd wnes i dechrau ar y gwaith o gyfansoddi'r sianti fôr "Criw Porth Tywyn", sydd bellach yn cael ei berfformio gan grŵp gwerin Stephen Rees a Huw Roberts.

It was in a café in Glynneath that I began composing "Criw Porth Tywyn", my sea shanty that has since been adopted by the new folk group which includes Stephen Rees and Huw Roberts.

14 May 2012

Nôl a Mlaen...


Logo: Tafarn y Llong / The Ship Inn

Edrychaf ymlaen at ganu yng Ngŵyl Nôl a Mlaen, Llangrannog, ar Fehefin 30. Dyma'r pentref lle ces i gyfle ym mis Tachwedd llynedd i chwarae mewn noson fel "support" i'r Hwntws yn Nhafarn y Llong. Y tro hwn, byddaf yn crwydro "nôl a Mlaen" rhwng Tafarn y Llong, a'r Pentre Arms, gyda'r delyn fach. Bosib byddaf yn dod â'r gitâr mas or atig am y  tro cyntaf mewn blynyddoedd, hefyd! Dyma hefyd bydd y cyfle cyntaf i mi chwarae fy alaw newydd, o'r enw "Tafarn y Llong", yn Nhafarn y Llong ei hun! Rwy'n deall bod Meic Stephens ar y rhaglen, felly mae'n addo noson ddifyr o grwydro...

I look forward to playing in the "Gŵyl Nôl a Mlaen" (Back and Forth) Festival in Llangrannog on June 30th. This is where I had an opportunity last year to play as support act for Yr Hwntws in The Ship Inn. This time, I shall be moving "back and forth" between the Ship, and the Pentre' Arms, with the small harp. For this gig, it's likely that I'll bring the guitar down from the attic for the first time in years! This will also be a first opportunity for me to play me new tune, entitled "Tafarn y Llong" (The Ship Inn), in The Ship itself! I understand that the evergreen Meic Stephens is also on the bill, so it promises to be an interesting night of crawling back and forth...

2 May 2012

Chippenham

Stats

Wedi chwarae / Played: 1

Cyfanswm / Total: £40