Dydd Sadwrn, Medi 4, 2010
Llun:
caffi “A Taste of Cornwall”
Y poster yn siop Millets yn ein
hysbysebu bod gostyngiad 75% ar eu nwyddau haf. I mi, dyma hysbysiad moel bod yr haf yn ddirwyn i ben, a’i
fod yn 6 mis ers i mi fod mas o waith parhaol, a ‘mod i’n wynebu gaeaf o fysgio
am y tro cyntaf ers 2005. Ond, cysur mawr yn y ffaith ‘mod i wedi gwerthu 4 CD
felly o leiaf doedd Llandeilo ddim yn ffliwc ddoe. A bydd un o’r CDs a gwerthais
heddiw yn mynd i rhywun yn Los Angeles!
Cinio yng nghaffi “A taste of
Cornwall” – pasti a chacen gaws. Wyddwn i ddim pa mor agos at Gernyw y bu’r
pastis, ond caffi cyfforddus a chyfeillgar dros ben.
Cwrdd â phâr eithaf
crachaidd, Seisnig, o ardal Dolgellau oedd yn honni eu bod â ddiddordeb yn yr alawon a’r traddodiadau
Cymreig: “...as long as Wales doesn’t try
to go it alone.”
Wel sod
off ‘te os nag y’ch chi am brynnu’r CD...