Recordio CD “demo”
Dim bysgio, ond aros lan yn hwyr
er mwyn recordio’r CD i’w werthu ar y stryd, gyda dim ond potel o fedd Cernyweg
yn gwmni i mi. Dim offer recordio iawn gen i, felly rhaid oedd chwarae popeth
mor berffaith ac y gallwn mewn i’r teclun bach hwn. Cymryd 6 neu 7
“take” ar ambell alaw. Yn y diwedd, roedd gennyf 12 o alawon o’n i’n digon
bodlon trosglwyddo i’r disgiau blanc.